Paratowyd y ddogfen hon gan gyfreithwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r Gwasanaeth Ymchwil i roi gwybodaeth a chyngor i Aelodau’r Cynulliad a’u staff am faterion y mae’r Cynulliad a’i bwyllgorau’n eu hystyried ac nid at unrhyw ddiben arall. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a’r cyngor a geir yn y ddogfen hon yn gywir, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw ddibyniaeth a roddir arnynt gan drydydd parti.

This document has been prepared by National Assembly for Wales lawyers and Research Services in order to provide information and advice to Assembly Members and their staff in relation to matters under consideration by the Assembly and its committees and for no other purpose. Every effort has been made to ensure that the information and advice contained in it are accurate, but no responsibility is accepted for any reliance placed on them by third parties

Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru)

Meddiannu Cartrefi Symudol: Biliau Cyfleustodau

Cyd-destun

1)    Ar 14 Tachwedd 2012, cytunwyd i ddarparu nodyn briffio i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i gynorthwyo’r Pwyllgor â’i waith o ystyried y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) (“y Bil”).

 

2)    Mae’r nodyn briffio hwn yn cyfeirio at ddarpariaethau perthnasol y Bil fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, sef adeg ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Diben

3)    Yn gryno, mae’r nodyn briffio hwn yn egluro ac yn cadarnhau’r hyn a ganlyn:

 

(i)            y sefyllfa o ran biliau cyfleustodau ac Ofgem/Ofwat;

(ii)          y darpariaethau yn Neddf Cartrefi Symudol 1983 sy’n ymwneud â biliau cyfleustodau; a

(iii)         y darpariaethau yn y Bil ynghylch amodau trwyddedu a gorfodi. 

Biliau Cyfleustodau ac Ofgem/Ofwat

4)    Mae’r trefniadau sydd ar waith mewn gwahanol safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru o ran biliau cyfleustodau yn amrywio. Mae rhai perchnogion cartrefi symudol wedi mynegi pryderon am ddiffyg tryloywder o ran eu biliau cyfleustodau a diffyg dewis iddynt hwy fel defnyddwyr, a’r ffaith nad ydynt yn gwybod sut y caiff eu biliau cyfleustodau eu cyfrifo.

 

5)    Bydd y cwestiwn ynghylch pa ffactorau sy’n berthnasol ac o bwys yn dibynnu ar y ffeithiau ym mhob achos, ond gall y rhain gynnwys yr hyn a nodir yn y cytundeb, neu fanylion y trefniadau, rhwng gweithredwr y safle a pherchennog/perchnogion y cartref symudol, a/neu’r sawl sy’n ymwneud â’r cwmni cyfleustodau, a/neu’r sawl sy’n cael y bil cyfleustodau.

 

6)    Yn gyffredinol, bydd gan weithredwr y safle berthynas gontractiol â chyflenwr y cyfleustodau, a bydd gweithredwr/rheolwr y safle yn ailwerthu gwasanaethau trydan, dŵr a charthffosiaeth i berchennog/berchnogion y cartref symudol.

 

7)    O dan Ddeddf Nwy 1986 (adran 37) a Deddf Trydan 1989 (adran 44), fel y’u diwygiwyd gan Ddeddf Cyfleustodau 2000, mae gan Ofgem y pŵer i bennu rheolau ynghylch yr uchafswm y gellir ei godi wrth ailwerthu nwy a thrydan (sef y rheolau prisiau ailwerthu uchaf).

 

8)    Mae’r rheolau hyn yn datgan na chaiff ailwerthwr (gweithredwr y safle), yn gyfreithiol, godi mwy ar breswylwyr (perchnogion cartrefi symudol) am gyfleustodau nag a godir arnynt ym mil eu cwmni ynni. Hefyd, mae’r rheolau hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr (perchnogion cartrefi symudol) herio costau os ydynt yn credu y codir gormod arnynt.

 

9)    Mae Ofgem wedi llunio canllawiau perthnasol: “Resale of gas and electricity for resellers” (2005).

 

10) Yn gyffredinol, os yw ailwerthwr yn berchen ar y mesurydd neu’r system ddosbarthu, gall godi ffi weinyddu am ei wasanaethau.

 

11) Mae rheolau Ofgem yn datgan bod yn rhaid i’r ailwerthwr (gweithredwr y safle) fod yn barod, os gofynnir iddo, i ddangos i’r prynwr (perchennog cartref symudol) y bil gwreiddiol gan y prif gyflenwr sy’n dangos y pris fesul uned ac unrhyw daliadau sefydlog, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth sy’n ategu ei gyfrifiad o’r gost fesul preswylydd.  

 

12) Mae gan Ofwat y pŵer o dan Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991 (adran 150) i osod pris ailwerthu uchaf mewn perthynas â gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth. Mae hyn yn gwahardd ailwerthwr (gweithredwr y safle) y gwasanaethau dŵr a/neu garthffosiaeth rhag codi mwy ar berchennog cartref symudol nag a godir arnynt gan y cwmni dŵr, er enghraifft.

 

13) O ran cyfleustodau, dylid hysbysu Ofgem/Ofwat am unrhyw achosion o fynd yn groes i reoliadau a gofynion Ofgem/Ofwat.

 

Deddf Cartrefi Symudol 1983

14) Mae Deddf Cartrefi Symudol 1983 yn rheoli’r berthynas gontractiol rhwng gweithredwr y safle a pherchennog y cartref symudol, ac mae’n darparu ar gyfer cynnwys telerau ymhlyg a phendant mewn cytundebau rhwng y partïon.

 

15) Mae paragraff 21 Pennod 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 yn nodi rhwymedigaethau perchennog y cartref symudol, ac mae’r rhain yn cynnwys, ymysg pethau eraill, talu gweithredwr safle gwarchodedig pob swm sy’n ddyledus o dan unrhyw gytundeb am wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan weithredwr y safle. Mae hwn yn ofyniad sydd ymhlyg ym mhob cytundeb, na all unrhyw delerau pendant ei wrth-wneud.

 

16) Mae paragraff 22 Pennod 2 o Atodlen 1 i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr safle gwarchodedig ddarparu tystiolaeth ddogfennol sy’n ategu ac yn egluro unrhyw daliadau y mae’n rhaid eu gwneud i weithredwr y safle, yn ôl y cytundeb, am wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill, os yw perchennog cartref symudol yn gofyn i gael gweld y dystiolaeth honno (a rhaid ei darparu am ddim). Mae hwn yn ofyniad sydd ymhlyg ym mhob cytundeb, na all unrhyw delerau pendant ei wrth-wneud.

Y Bil, Amodau Trwyddedu, a Gorfodi

17) Ni fydd y Bil Safleoedd Rheoleiddiedig Cartrefi Symudol (Cymru) yn newid y gofynion a nodir uchod mewn perthynas â biliau cyfleustodau a gwybodaeth. 

 

18) Mae adran 10 o’r Bil yn nodi’r amodau trwyddedu sy’n gymwys yn achos trwyddedau a roddir i safleoedd o dan y gyfundrefn drwyddedu newydd a gaiff ei sefydlu gan y Bil.

 

19) O dan adran 10(1)(a) o’r Bil, rhaid i drwydded gynnwys amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y drwydded gydymffurfio â thelerau unrhyw gytundeb y mae adran 1 o Ddeddf 1983 yn ymwneud ag ef.

 

20) Yn ymarferol, golyga hyn fod unrhyw achos lle nad yw perchennog y safle yn cydymffurfio â’r gofyniad i ddarparu’r dystiolaeth ddogfennol a’r eglurhad a nodir yn Neddf Cartrefi Symudol 1983 yn achos o dorri amodau’r drwydded.

 

21) Mae adran 3(2) o’r Bil yn gosod dyletswyddau cyffredinol ar Awdurdodau Trwyddedu Safleoedd, ac mae hyn yn cynnwys dyletswydd i wneud unrhyw drefniadau sy’n angenrheidiol er mwyn sicrhau:

 

(i)                 bod y gyfundrefn drwyddedu y darperir ar ei chyfer yn y Bil yn cael ei rhoi ar waith mewn modd effeithiol yn eu hardal;

     (ii)       bod amodau trwyddedau yn cael eu gorfodi mewn modd effeithiol.

 

22) Mae adran 17 o’r Bil yn ymdrin â gorfodi, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Trwyddedu Safleoedd, wrth gyflawni eu dyletswydd statudol i orfodi amodau trwydded mewn modd effeithiol o dan adran 3 o’r Bil, wneud trefniadau gorfodi priodol, ac, wrth wneud hynny, roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru. 

 

23) Felly, o ystyried y Bil fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, byddai unrhyw achos o dorri amodau trwydded, gan gynnwys achos o berchennog y safle yn methu â darparu’r dystiolaeth ddogfennol ofynnol a’r eglurhad a nodir yn Neddf Cartrefi Symudol 1983 i berchennog cartref symudol, yn fater i’r Awdurdodau Trwyddedu Safleoedd ei orfodi.

 

 

Helen Roberts, Gwasanaethau Cyfreithiol / Legal Services

Jonathan Baxter, Gwasanaethau Ymchwil / Research Services

30 Tachwedd / November 2012